Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Hydref 2022
Amser:
09.35 -
11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13017
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS Rhianon Passmore AS Rhun ap Iorwerth AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Elwyn Jones (Swyddog) Lisa Griffiths (Swyddog) Lisa Hatcher (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 John Griffiths oedd yn cadeirio’r eitem gyntaf fel y Cadeirydd dros dro dynodedig a chroesawodd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.2 Esgusododd Vikki Howells a Peredur Owen Griffiths eu hunain ar gyfer yr eitem gyntaf. Roedd Rhianon Passmore a Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn eu lle.
2 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
3 Adroddiad cydymffurfio Grwpiau Trawsbleidiol
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd ysgrifennu at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel Cadeiryddion Grwpiau Trawsbleidiol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd gadarnhau sefyllfa'r tri grŵp sy’n ymddangos yn segur, gan gynnwys a ydynt wedi cwrdd neu'n bwriadu cwrdd, neu a ydynt am ddadgofrestru'n wirfoddol.
4 Cofrestr Buddiannau'r Aelodau - newid arfaethedig i MS Forms
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i dreialu’r defnydd o Microsoft Forms ar gyfer cyflwyno newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau.
5 Ymatebion ymgynghoriad Grwpiau Trawsbleidiol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd o fwyafrif na fyddai adolygiad sylfaenol o ddefnydd Grwpiau Trawsbleidiol o adnoddau'r Senedd.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weithredwr er mwyn canfod sut mae'r rheolau ariannol ar hyn o bryd yn gweithredu mewn perthynas â phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Grwpiau Trawsbleidiol.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i nifer o fân newidiadau i'r rheolau presennol a gofyn i swyddogion eu diweddaru yng ngoleuni hyn. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i drafod y rheolau diweddaraf mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).